Datblygu Amrywiaeth Casgliadau: argymell prynu eitem i’r llyfrgell

Datblygu Amrywiaeth Casgliadau: argymell prynu eitem i’r llyfrgell

Hoffai’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant wella a datblygu amrywiaeth ein casgliadau llyfrgell.
Hoffem i’n casgliadau adlewyrchu i raddau helaethaf grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd yn cynnwys grwpiau o ran ethnigrwydd, tarddiad daearyddol, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, oed a statws economaidd-gymdeithasol.
Os hoffech chi awgrymu unrhyw lyfrau neu adnoddau eraill y gallem ni eu prynu er mwyn helpu i ddatblygu ein casgliadau yn y modd hwn, a wnewch chi lenwi’r ffurflen isod.

Sylwer:
- Bydd y Llyfrgell yn adolygu’r holl awgrymiadau cyn prynu.
- Y Llyfrgell fydd yn penderfynu a ddylid prynu unrhyw lyfr fel llyfr printiedig neu e-lyfr.
- Nid oes modd prynu teitlau sydd allan o brint ar hyn o bryd.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y fenter hon, neu unrhyw fater arall yn ymwneud â’r llyfrgell, cysylltwch â: library@uwtsd.ac.uk.